Croeso i wefan GPM Gogledd Cymru, rhan o grŵp gwefannau Hanes Teuluol ac Achau UKBMD.
Mae'r Swyddfeydd Cofrestru yng Ngogledd Cymru'n dal cofnodion gwreiddiol genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn ôl i ddechrau cofrestru gwladol yn 1837.
Mae Cymdeithasau Hanes Teuluol y rhanbarth yn cydweithio gyda'r Gwasanaethau Cofrestru lleol i weld bod modd chwilio'r mynegeion i'r cofnodion hyn ar y we.
Er nad yw'r mynegeion yn gyflawn eto ar gyfer pob blwyddyn ac ardal, gobeithiwn y bydd y gronfa ddata maes o law yn cynnwys holl enedigaethau, priodasau a marwolaethau a gofrestrwyd yng Ngogledd Cymru ers 1837.
Mae'r dewislenni ar frig y dudalen yn arwain at holl adrannau'r wefan hon. I ymweld â'r holl wefannau eraill sydd wrthi'n rhoi mynegeion gwreiddiol y cofrestryddion ar-lein, cliciwch ar logo UKBMD isod. Yn UKBMD gallwch hefyd wneud Chwiliad Aml-ranbarth trwy ddata amryw safleoedd GPM ar un cynnig os nad ydych yn sicr o ba ardal y daeth eich hynafiaid.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ynghylch y wefan hon, neu os ydych eisiau cysylltu â ni, cofiwch ymweld â'n Tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Free Online Tutorials on how to get the best from these Local BMD websites can be found on the UKBMD website's Tutorials page.
I gael clywed am holl ddiweddariadau i'r amrywiol wefannau GPM sy'n rhan o grŵp UKBMD, ymwelwch â gwefan UKBMD a chofrestru ar restr Gyhoeddiadau UKBMD.