Chwilio yn y Mynegeion Marwolaethau

GWYBODAETH AM DYSTYSGRIFAU MARWOLAETH

TYSTYSGRIF SAFONOL

Copi llawn o gofnod marwolaeth.

CEISIADAU DRWY'R POST

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post llenwch y ffurflen hon ac amgáu amlen barod â stamp a'r tâl priodol mewn sterling. Mae gwybodaeth am gost tystysgrifau i'w chael o unrhyw swyddfa gofrestru. Dylai pob tâl fod yn daladwy i'r awdurdod priodol fel y gwelwch yma a dylid croesi sieciau "/& Co/".
Peidiwch ag anfon arian parod.

Dylid anfon y ffurflen gais hon at Gofrestrydd Arolygol y rhanbarth lle'r oedd yr enedigaeth.
Peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon i wneud ceisiadau i'r COFRESTRYDD CYFFREDINOL.

CHWILIO'R MYNEGEION MARWOLAETHAU

Nid oes gan y Cofrestryddion Arolygol staff i wneud gwaith chwilio amhendant neu hirwyntog. Fel arfer byddant yn chwilio yn y mynegai marwolaethau dros gyfnod heb fod yn fwy na 5 mlynedd, ond yn unig lle byddant wedi cael manylion cywir am gofrestru'r farwolaeth. Os bydd angen chwilio ymhellach bydd gofyn i chi neu rywun ar eich rhan wneud CHWILIAD CYFFREDINOL yn y mynegeion. I gael rhagor o wybodaeth gwelwch isod ac yna gofynnwch i'r Cofrestrydd Arolygol.

CHWILIADAU CYFFREDINOL YN SWYDDFA'R COFRESTRYDD AROLYGOL

Mae'r mynegeion yn swyddfa'r Cofrestrydd Arolygol yn perthyn i enedigaethau, priodasau a marwolaethau a fu yn rhanbarth y Cofrestrydd Arolygol yn unig.

CHWILIAD CYFFREDINOL yw pan fydd person neu rywun ar ran y person yn cael hawl i chwilio yn y mynegeion am gyfnod heb fod dros chwe awr yn olynol. Trwy drefniant gyda'r Cofrestrydd Arolygol gall person sy'n gwneud CHWILIAD CYFFREDINOL gael gweld y mynegeion i'r cofrestri genedigaethau, priodasau a marwolaethau ond nid y cofrestri eu hunain. Mae tystysgrif o unrhyw gofnod arbennig i'w chael ar ôl llenwi ffurflen gais a thalu'r swm priodol.

Os yw person sy'n gwneud CHWILIAD CYFFREDINOL yn ansicr ar ôl gweld enw yn y mynegeion os mai dyma'r person cywir, bydd y Cofrestrydd Arolygol, o dderbyn manylion pendant am y person, yn defnyddio'r manylion hynny i edrych ar y gofrestr ei hun. Nid oes modd darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol o'r gofrestr ond ar ffurf tystysgrif. Mae'r tâl am y CHWILIAD CYFFREDINOL yn cynnwys edrych ar fanylion hyd at wyth person yn y cofrestri ond, os bydd angen edrych ar fwy, bydd tâl ychwanegol yn cael ei godi am bob tro arall y bydd raid edrych yn y gofrestr oni bai fod tystysgrif yn cael ei chyhoeddi o'r cofnod, pryd na fydd angen talu ond pris y dystysgrif.