Argymhellion ar Chwilio'r Mynegai.
1. Oes modd chwilio mwy nag un flwyddyn neu ranbarth ar y tro?Oes. Fel y byddwch yn rholio drwy'r rhestri, gallwch ddewis mwy nag un flwyddyn neu ranbarth trwy ddal yr allwedd Ctrl fel y byddwch yn clicio'r llygoden. Yn ôl i ddechrau'r dudalen2. Heb wybod yr enw cyntaf, sut mae gwneud pethau'n haws i weld pa gofnod yw'r un iawn?Os gwyddoch ym mha ardal y ganed neu y priododd y person, ond na wyddoch yr enw cyntaf,
dylech ddewis Trefnu: Yn ôl Cyfeirnod yn lle Trefn yr Wyddor Yn ôl i ddechrau'r dudalen3. Oes raid i mi roi llythyren flaen?Nac oes ond, os gallwch, bydd yn lleihau faint o eitemau gaiff eu dangos ac, er enghraifft, lle bydd JONES yn priodi JONES bydd yn sicrhau fod y person sydd o ddiddordeb i chi yn ymddangos yn y golofn ar y chwith. Yn ôl i ddechrau'r dudalen4. Pa fath o enwau blaen allaf i ddefnyddio ar y ffurflenni chwilio?
Fe allwch chi roi enw blaen; neu ran gyntaf unrhyw enw blaen, neu lythyren flaen. Er enghraifft, pe byddech yn chwilio am John William, fe allech chi roi:
Yn ôl i ddechrau'r dudalen5. Beth os yw'r enw wedi ei gamsillafu yn y mynegeion?Fel y trafodwyd yn nhudalennau gwybodaeth Genedigaethau , Priodasau a Marwolaethau, mae gwallau'n gallu digwydd. Os byddwch yn amau fod enw wedi cael ei gamsillafu, mae gennych amryw o ddewisiadau wrth chwilio i ddweud eich bod am chwilio am enwau sy'n swnio'n debyg ond sydd wedi eu sillafu'n wahanol neu'n anghywir. Cliciwch y botwm gyferbyn ag un o'r dewisiadau canlynol:
Yn ôl i ddechrau'r dudalen6. Sut mae archebu tystysgrif?Fe welwch gyfeirnod yr enedigaeth, y briodas neu'r farwolaeth yng ngholofn dde y tabl o ganlyniadau ar ôl i chi fod yn chwilio. Cliciwch ar y cyfeirnod hwn a bydd yn mynd â chi'n syth i ffurflen gais y gallwch ei hargraffu. Bydd y ffurflen eisoes yn dangos y cyfeirnod, yr enwau a'r llefydd heb i chi orfod gwneud dim. Bydd y ffurflen hefyd yn dangos y cyfeiriad lle dylech anfon y cais. Sylwch: Mae gwahanol Swyddfeydd Cofrestru yng Ngogledd Cymru, pob un gyda'i chyfeiriad ei hun. Os anfonwch eich cais i'r swyddfa anghywir, mae'n debygol o gael ei wrthod a'i anfon yn ôl atoch! Fe gewch ragor o wybodaeth ynghylch lle i anfon eich ceisiadau ar y tudalennau priodol ar gyfer Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau. Yn ôl i ddechrau'r dudalen7. Sut mae chwilio'n gyflymach?
Mae miloedd o gofnodion yn y casgliad hwn. Os byddwch yn cyfyngu eich chwilio i ychydig o
flynyddoedd a rhanbarthau, byddwch yn cyflymu pethau'n arw.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen8. Oes yna gymorth arall i'w gael?Mae rhagor o gwestiynau ac atebion cyffredinol ar dudalen y Cwestiynau Cyffredin. Yn ôl i ddechrau'r dudalenOs na chawsoch ateb i'ch cwestiwn yma, cofiwch edrych ar brif dudalen y Cwestiynau Cyffredin neu anfonwch e-bost yn rhoi manylion eich cwestiwn ac fe wnawn ein gorau i'w ateb. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ar sut i wella'r gwasanaeth hwn ond, cofiwch, rydym yn cynnig y gwasanaeth yn ein hamesr "sbâr" ac y gall gymryd peth amser cyn i chi gael ateb. |