Argymhellion ar Chwilio'r Mynegai.

  1. Oes modd chwilio mwy nag un flwyddyn neu ranbarth ar y tro?
  2. Heb wybod yr enw cyntaf, sut mae gwneud pethau'n haws i weld pa gofnod yw'r un iawn?
  3. Oes raid i mi roi llythyren flaen?
  4. Pa fath o enwau blaen allaf i ddefnyddio ar y ffurflenni chwilio?
  5. Beth os yw'r enw wedi ei gamsillafu yn y mynegeion?
  6. Sut mae archebu tystysgrif?
  7. Sut mae chwilio'n gyflymach?
  8. Oes yna gymorth arall i'w gael?

1. Oes modd chwilio mwy nag un flwyddyn neu ranbarth ar y tro?

Oes. Fel y byddwch yn rholio drwy'r rhestri, gallwch ddewis mwy nag un flwyddyn neu ranbarth trwy ddal yr allwedd Ctrl fel y byddwch yn clicio'r llygoden.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

2. Heb wybod yr enw cyntaf, sut mae gwneud pethau'n haws i weld pa gofnod yw'r un iawn?

Os gwyddoch ym mha ardal y ganed neu y priododd y person, ond na wyddoch yr enw cyntaf, dylech ddewis Trefnu: Yn ôl Cyfeirnod yn lle Trefn yr Wyddor
Bydd hyn yn trefnu'r canlyniadau fesul ardal, gan roi gwell cyfle i chi weld pwy yw pwy.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

3. Oes raid i mi roi llythyren flaen?

Nac oes ond, os gallwch, bydd yn lleihau faint o eitemau gaiff eu dangos ac, er enghraifft, lle bydd JONES yn priodi JONES bydd yn sicrhau fod y person sydd o ddiddordeb i chi yn ymddangos yn y golofn ar y chwith.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

4. Pa fath o enwau blaen allaf i ddefnyddio ar y ffurflenni chwilio?

Fe allwch chi roi enw blaen; neu ran gyntaf unrhyw enw blaen, neu lythyren flaen. Er enghraifft, pe byddech yn chwilio am John William, fe allech chi roi:
J
Jo
Joh
J W
Jo Wi
J Will

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

5. Beth os yw'r enw wedi ei gamsillafu yn y mynegeion?

Fel y trafodwyd yn nhudalennau gwybodaeth Genedigaethau , Priodasau a Marwolaethau, mae gwallau'n gallu digwydd. Os byddwch yn amau fod enw wedi cael ei gamsillafu, mae gennych amryw o ddewisiadau wrth chwilio i ddweud eich bod am chwilio am enwau sy'n swnio'n debyg ond sydd wedi eu sillafu'n wahanol neu'n anghywir. Cliciwch y botwm gyferbyn ag un o'r dewisiadau canlynol:

  • Union: Fel mae'n awgrymu, bydd hyn yn chwilio am union sillafiad yr enw.

  • Soundex: Datblygwyd algorithm Soundex gan adran fewnfudo UDA i helpu gwaith catalogio'r miloedd o bobl oedd yn cyrraedd. Mae'n gweithio trwy gadw llythyren gyntaf y cyfenw, ac yna ddefnyddio cod rhifau am y gweddill ar sail llythrennau sy'n swnio'n debyg. Felly, os byddwch yn chwilio gyda'r dewis hwn, fe welch bod SMITH, er enghraifft, yn dychwelyd yr enwau SMITH, SMITHE a SMYTHE (ac enwau eraill hefyd).

  • Agos: Un o gyfyngiadau Soundex yw derbyn fod y llythyren gyntaf yn gywir. Yn aml, gydag W ddistaw a gollwng H, nid yw hyn yn wir. Mae defnyddio cymharu Agos yn ystyried hyn a byddai'n cyfateb HARTAS i ARTAS. (HARTAS yw cyfenw awdur y rhaglenni sy'n rhedeg y wefan hon, a dyna sut mae'n gwybod am y broblem!)

  • Niwlog: Mae hyn yn mynd â'r chwilio Agos gam ymhellach, gan geisio dal cymaint o bosibiliadau ag y gall trwy edrych am enwau sy'n gorgyffwrdd, ond sydd heb fod yn y dosbarth uchod, er enghraifft, TARBUCK a STARBUCK. Gwyliwch, gall hyn ddychwelyd rhai enwau annisgwyl iawn, ond fe ddylai ddal yr hynafiaid coll!

  • Rhagddodiad Gaelaidd: (tudalen Chwiliad Uwch yn unig) Weithiau mae cyfenwau fel, er enghraifft, O'NEIL yn cael eu mynegeio heb y collnod. Hefyd, fe all enwau fod wedi colli'r rhagddodiad Mc. Felly, gyda'r dewis hwn, pe byddech wedi rhoi'r cyfenw Donnell, er enghraifft, bydd yn chwilio am Donnell, MacDonnell, McDonnell, M'Donnell, ODonnell ac O'Donnell
    Nid yw hyn yn berthnasol i Gyfenw'r Priod wrth chwilio am briodasau.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen

6. Sut mae archebu tystysgrif?

Fe welwch gyfeirnod yr enedigaeth, y briodas neu'r farwolaeth yng ngholofn dde y tabl o ganlyniadau ar ôl i chi fod yn chwilio.

Cliciwch ar y cyfeirnod hwn a bydd yn mynd â chi'n syth i ffurflen gais y gallwch ei hargraffu. Bydd y ffurflen eisoes yn dangos y cyfeirnod, yr enwau a'r llefydd heb i chi orfod gwneud dim.

Bydd y ffurflen hefyd yn dangos y cyfeiriad lle dylech anfon y cais.

Sylwch: Mae gwahanol Swyddfeydd Cofrestru yng Ngogledd Cymru, pob un gyda'i chyfeiriad ei hun. Os anfonwch eich cais i'r swyddfa anghywir, mae'n debygol o gael ei wrthod a'i anfon yn ôl atoch!

Fe gewch ragor o wybodaeth ynghylch lle i anfon eich ceisiadau ar y tudalennau priodol ar gyfer Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

7. Sut mae chwilio'n gyflymach?

Mae miloedd o gofnodion yn y casgliad hwn. Os byddwch yn cyfyngu eich chwilio i ychydig o flynyddoedd a rhanbarthau, byddwch yn cyflymu pethau'n arw.
Gallwch wella mwy ar y chwilio trwy roi llythyren flaen, byddwch yn lleihau faint o ddata sy'n cael ei anfon atoch ac felly'n gostwng yr amser fydd eich cyfrifiadur angen i'w ddangos i chi.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

8. Oes yna gymorth arall i'w gael?

Mae rhagor o gwestiynau ac atebion cyffredinol ar dudalen y Cwestiynau Cyffredin.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

Os na chawsoch ateb i'ch cwestiwn yma, cofiwch edrych ar brif dudalen y Cwestiynau Cyffredin neu anfonwch e-bost yn rhoi manylion eich cwestiwn ac fe wnawn ein gorau i'w ateb. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ar sut i wella'r gwasanaeth hwn ond, cofiwch, rydym yn cynnig y gwasanaeth yn ein hamesr "sbâr" ac y gall gymryd peth amser cyn i chi gael ateb.