Chwiliad Uwch drwy'r Mynegeion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau

Gwybodaeth am Chwilio'r Mynegeion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau, cofiwch ddarllen hwn gyntaf:

I Gael Copi o Dystysgrif:

  • Chwiliwch trwy ddefnyddio'r ffurflen isod.
  • Cliciwch ar y cyfeir-rifau yn y canlyniadau ar gyfer pob un sydd o ddiddordeb i chi. Bydd hyn yn ychwanegu'r cofnod at eich Crynodeb.
    • Trwy ailadrodd yr uchod ar unrhyw un o'r gwefannau GPM yng nghasgliad UKBMD, gallwch ychwanegu rhagor o gofnodion at eich Crynodeb.
    • O'r Crynodeb gallwch wedyn benderfynu pa dystysgrifau i'w harchebu.
      • Mae'r cyfeir-rifau ar y Crynodeb yn cysylltu â ffurflenni cais i'w hargraffu.
      • Os yw'r gwasanaeth ar gael, gallwch archebu tystysgrifau ar-lein trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn y Crynodeb.
    • Bydd y cofnodion yn aros ar eich Crynodeb nes byddwch yn cau eich porwr.
    • Fel arall, gallwch ychwanegu amryw gofnodion at y Crynodeb. Dewiswch amrediad o gofnodion trwy glicio ar y blychau yn y golofn dde, a chlicio wedyn ar y botwm Ychwanegu dewisiadau at y Crynodeb ar waelod y canlyniadau. Ni chewch ddewis mwy na 100 ar y tro.
  • Cofiwch nodi cyfeiriad y Swyddfa Gofrestru sydd ar y ffurflen ac anfon pob cais i'r Swyddfa Gofrestru iawn.
  • Sylwch nad yw'r mynegeion ddim yn gyflawn eto ar gyfer pob blwyddyn a rhanbarth. Felly, cofiwch edrych ar dudalennau Cwmpas pob math i weld yn union ba gofnodion sydd yno.
  • Mae Argymhellion ar Chwilio i'w cael yma.
  • Ar ôl gorffen chwilio bydd y ffurflen yn ymddangos eto gyda'r rhai a ddewiswyd eisoes yn eu lle. Gallwch newid y rhain i greu chwiliad newydd.


Chwiliad Cyfun Uwch

  1. Dewiswch y math(au) o chwiliad.
  2. Dewiswch gyfnod o'r rhestr.
    Gallwch ddewis amryw flynyddoedd trwy ddal y bysell Control wrth glicio (dylai defnyddwyr Mac ddefnyddio bysell Shift).
    (Dylai defnyddwyr Sgrin Gyffwrdd ddewis un flwyddyn ac yna sawl blwyddyn o bobtu)
  3. Dewiswch y rhanbarth(au) i'w chwilio.
    Gallwch ddewis mwy nag un rhanbarth trwy ddal y bysell Control wrth glicio (dylai defnyddwyr Mac ddefnyddio bysell Shift).
    Os dewiswch un rhanbarth yn unig, bydd rhestr newydd yn ymddangos, fydd yn gadael i chi ddewis isranbarth o fewn y rhanbarth.
  4. Rhowch un ai gyfenw, enw morwynol y fam neu'r ddau.
  5. Gallwch ddewis rhoi enwau blaen; neu ran gyntaf enwau blaen lluosog, neu lythrennau blaen os gwyddoch beth ydynt.
  6. Ar gyfer priodasau, gallwch ddewis rhoi manylion y priod, os gwyddoch beth ydynt.
  7. Dewiswch gael y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor neu yn ôl cyfeir-rif, fesul blwyddyn ac fesul math neu gyfuniad o'r cyfan.
  8. Dewiswch a yw'r chwilio i fod am yr union sillafiad, neu a ydych am chwilio am enwau sy'n swnio'n debyg i'r cyfenw hefyd.
  9. Dewiswch gael y canlyniadau ar y sgrin neu eu cadw mewn ffeil y gallwch ei llwytho i mewn i daenlen.
  10. Pwyswch y botwm Dangos y Canlyniadau.
Ar gyfer pob chwiliad:
Math o chwiliad:




Dewiswch un Rhanbarth i ddechrau.
Dewiswch un Rhanbarth i ddechrau.
Priodasau'n unig:
Genedigaethau'n unig:
  

Sylwch: Nid yw enw morwynol y fam yn ymddangos ymhob cofnod. Os byddwch yn dewis peidio anwybyddu cofnodion gwag, bydd y cofnodion lle nad yw enw morwynol y fam yn ymddangos yn cael eu dangos yn y canlyniadau hefyd. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd neu efallai na fydd enw morwynol y fam ar y dystysgrif yn cyfateb i'r un a fynnwch.

Enw Morwynol y fam - Genedigaethau'n unig:

Sylwch: Rhowch Enw Morwynol y Fam i chwilio am enedigaethau gyda'r cyfenw hwn. Fe all y cyfenw hwn fod yn wahanol i'r un yn y prif chwiliad am Enedigaethau.

Marwolaethau'n unig:
 

Sylwch: Ni chafodd holl gofnodion gydag oed pan fu farw eu mynegeio. Os byddwch yn rhoi'r oed pan fu farw neu flwyddyn eni, bydd y cofnodion lle na chafodd hynny ei fynegeio'n cael eu dangos yn y canlyniadau hefyd. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd neu efallai na fydd y dystysgrif yr un a fynnwch.

Ar gyfer pob chwiliad:
        Sylwch: Mae disgrifiad o bob un o'r dewisiadau chwilio hyn i'w gael ar y dudalen Awgrymiadau.